Ysgol Uwchradd Y Rhyl
Digwyddiad Dau Ddiwrnod Unigryw yn Sir Ddinbych: Lletygarwch a Thwristiaeth yn Dod yn Fyw
Yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ar 27 a 28 Chwefror 2024 cynhaliwyd digwyddiad dau ddiwrnod i ddisgyblion ysgolion Sir Ddinbych oedd yn arddangos y sector Lletygarwch a Thwristiaeth ar ei orau. Cymerodd dros 400 o fyfyrwyr, yn amrywio o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 10, ran mewn gweithgareddau ymarferol, arddangosiadau byw, a gweithdai rhyngweithiol a gynlluniwyd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr talentog ar gyfer y sector lletygarwch a thwristiaeth.
Ariennir y Cynllun Talent Twristiaeth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r nod yw datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y sector, gan wella rhagolygon gyrfa a meithrin diddordeb tymor hir yn y diwydiant. Mae’r trefnwyr yn diolch o galon i staff Ysgol Uwchradd y Rhyl am eu croeso cynnes a’u parodrwydd i helpu gyda’r trefniadau.
Cystadleuaeth Goginio i Ysgolion: Profiad Coginio Cofiadwy
Uchafbwynt y digwyddiad oedd y School Food Showdown, digwyddiad rhyngweithiol a deinamig ar fwyta’n iach. Roedd y digwyddiad (a arweiniwyd gan Chef Ben) yn annog y myfyrwyr i ymddiddori mewn bwyd mewn ffordd ymarferol, hwyliog ac addysgiadol. Rhannwyd y myfyrwyr yn ddau dîm, Red Chillis a Green Peas, oedd yn cystadlu i goginio’r pryd iachaf a mwyaf cytbwys mewn dim ond 15 munud. Dan arweiniad arbenigol, dysgodd y myfyrwyr sgiliau gwerthfawr am faeth a bwyta’n iach gan fagu hyder yn y gegin yr un pryd.
Arddangosiad Coginio Proffesiynol: Dysgu gan y Gorau
Cafodd y myfyrwyr arddangosiadau coginio byw gan Jimmy Williams, sy’n gogydd ym mwyty Signatures yng Nghonwy. Rhoddodd Jimmy, sy’n enillydd dwbl Gwobr Bwyty Gorau Cymru, ei sgiliau ar waith mewn cegin broffesiynol dros dro (a ddarparwyd gan y Cookery Theatre Co.) gan roi cipolwg i’r myfyrwyr ar y safonau uchel a’r creadigrwydd sydd eu hangen i gyrraedd yr uchelfannau ym maes celfyddydau coginio. Gyda’r cogydd Chris, paratôdd risotto bacwn a phys blasus, ynghyd â dewis llysieuol sef madarch a phys, y cafodd y myfyrwyr gyfle i’w blasu. Yna rhoddodd gardiau rysáit i’r myfyrwyr er mwyn iddynt allu rhoi cynnig ar goginio’r saig eu hunain.
Gweithdy Coginio
I orffen, arweiniodd Glen Hughes, darlithydd ym maes diwydiannau gwasanaethu yng Ngholeg Llandrillo, weithdy coginio ymarferol. Arweiniodd Glen y myfyrwyr trwy’r broses o goginio korma traddodiadol, gan rannu ei wybodaeth am gelfyddydau coginio a’r diwydiant lletygarwch. Trwy gydol y gweithdy, dysgodd y myfyrwyr am gynhwysion allweddol, technegau coginio a phwysigrwydd paratoi, sydd i gyd yn sgiliau pwysig i unrhyw un sydd am lwyddo yn y maes coginio. Yn sgil profiad a brwdfrydedd Glen daeth y myfyrwyr i ddeall y grefft yn well.
Y Cynllun Talent Twristiaeth: Ffurfio Gyrfaoedd y Dyfodol
Fel rhan o genhadaeth ehangach y Cynllun Talent Twristiaeth, roedd y digwyddiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr i’r myfyrwyr ar y sector twristiaeth a lletygarwch a’r amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant. Trwy hynny roeddent yn cael eu harfogi a’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ddilyn gyrfa yn y sectorau cyffrous hyn.









