Gyrfaoedd ym maes Lletygarwch yng Ngogledd Cymru

Llwybr i Bosibiliadau Di-ben-draw

Yng Nghymru ceir rhai o fwytai, gwestai a busnesau lletygarwch gorau a mwyaf unigryw’r Deyrnas Unedig. O fwytai a chanddynt sêr Michelin i letyau moethus, mae lletygarwch yn llwybr gwych i yrfa tymor hir.

Hospitality Careers

Mwy o Ddewisiadau nag y
GALLECH EU DYCHMYGU

Mae'r sector lletygarwch yng Ngogledd Cymru yn cynnig mwy o lwybrau gyrfa nag y byddech chi'n ei ddychmygu ac mae'r dewis yn ddi-ben-draw. Mae gyrfaoedd ym maes lletygarwch yn amrywiol a chyffrous a gallant roi sgiliau trosglwyddadwy i chi a fydd yn eich paratoi ar gyfer bywyd.

  • Barista
  • Cogydd
  • Concierge
  • Rheolwr Digwyddiadau
  • Cynorthwyydd Cyfleusterau
  • Gweinydd Bwyd
  • Cynrychiolydd Gwyliau
  • Rheolwr Gwesty
  • Derbynnydd mewn Gwesty
  • Llongwr yn y Llynges Fasnachol
  • Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr Agored
  • Gwesteiwr
  • Rheolwr Bwyty
  • Rheolwr Canolfan Chwaraeon neu Ganolfan Hamdden
  • Tywysydd
  • Cynorthwyydd mewn Canolfan Groeso
  • Cynghorydd Teithio
  • Rheolwr Asiantaeth Deithio
  • Cynllunydd Priodasau

Dysgu y Tu Hwnt
i'r Ystafell Ddosbarth

Mae sawl mantais i addysg ym maes lletygarwch ac mae'n cynnig pob math o bosibiliadau i'r dyfodol. Dyma rai o'r sgiliau y gallech chi gael budd ohonynt:

Sgiliau Ymarferol

Un o'r pethau gorau am yrfa ym maes lletygarwch yw'r profiad ymarferol a geir. Nid yn yr ystafell ddosbarth yn unig y cynhelir y rhan fwyaf o'r rhaglenni dysgu ac maent yn cynnig cyfleoedd i gael profiad ymarferol dan law gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Sgiliau Amlbwrpas

Gallai gweithio yn y diwydiant lletygarwch eich arfogi ag amrywiaeth o sgiliau y gellir eu trosglwyddo i swyddi eraill yn y sector. O reoli cyfryngau cymdeithasol i reoli gwesty, mae'r posibiliadau'n ddi-ben-draw.

Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol

Er bod llawer o gyfleoedd i weithio yn y diwydiant lletygarwch yng Ngogledd Cymru, bydd eich profiadau yn fyd-eang. Bydd cyfarfod â phobl newydd yn gyson a chael profiadau amrywiol yn arwain at ymwybyddiaeth ddiwylliannol y gellir ei throsglwyddo i unrhyw yrfa.

Sgiliau Ymwneud â Phobl

Bydd cyfarfod â phobl newydd a gweithio gyda'r cyhoedd yn eich galluogi i feithrin sgiliau cyfathrebu cryf. Mae'r sgiliau rhyngbersonol hyn yn hanfodol i bob agwedd ar eich bywyd, a byddant o fudd i chi yn eich bywyd personol a phroffesiynol.

Eich Llwybr i Lwyddiant

O ran gyrfaoedd ym maes lletygarwch, mae mwy nag un llwybr i lwyddiant. O brentisiaethau i gyrsiau lefel gradd, dilynwch y llwybr sy’n addas i chi.

Camau nesaf...

  16-18 oed 18+ oed
Prentisiaethau Lefel 2-5
Prentisiaethau Graddau Lefel 6
Cyflogaeth
Addysg Bellach (Lefelau A, BTEC, neu, cymwysterau Lefel 3 eraill)
Addysg Uwch (Brifysgol)
Blwyddyn i ffwrdd
Twf Swyddi Cymru (16-19 oed)
Hunangyflogaeth/Entrepreneur
Gwirfoddoli

Swyddi i Bawb

Ffynhonnell: Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, Llwybrau i'ch Dyfodol

Cynllun Sgiliau Rhanbarthol

Cyflogwyr yn Arwain y Ffordd

Mae'r Daith yn Cychwyn Yma

Mae llawer o adnoddau ar gael i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru i'ch grymuso i wneud y dewis gyrfa cywir.

Mae'r Cynllun Talent Twristiaeth yn gweithio mewn cydweithrediad â Grŵp Llandrillo Menai, Gyrfa Cymru a'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

Gyrfa Cymru

Gall Gyrfa Cymru eich helpu i gynllunio eich llwybr gyrfa a'ch cefnogi i ddod o hyd i'r cyrsiau a'r swyddi cywir.

Ewch i'r Wefan

Grŵp Llandrillo Menai

Mae Llandrillo Menai yn darparu ystod eang o lwybrau dysgu o brentisiaethau i gyrsiau lefel gradd.

Ewch i'r Wefan

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Mae gan y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol lawer o adnoddau defnyddiol sy'n rhoi sylw i'r meysydd twf allweddol yng Ngogledd Cymru.

Ewch i'r Wefan

Portal Sgiliau Gogledd Cymru

P’un a ydych yn unigolyn neu’n gyflogwr o unrhyw faint, gallwch ddefnyddio’r Portal i weld y cyfleoedd sydd ar gael yng ngogledd Cymru.

Ewch i'r Wefan