0 Wristiaeth - Gist

Gyrfaoedd ym maes Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

Lle mae Pob Diwrnod yn Antur

O fynyddoedd uchaf Cymru a Lloegr i safleoedd treftadaeth y byd, mae’r diwydiant twristiaeth yng Ngogledd Cymru yn fywiog ac yn llawn antur! Mae galw mawr am bobl i weithio yn y diwydiant twristiaeth yng Ngogledd Cymru ac mae’n cynnig nifer o gyfleoedd gyrfa tymor hir.

Tourism Careers

MAE'R BYD I GYD
O'CH BLAEN CHI

Gan fod Gogledd Cymru yn rhan mor boblogaidd ac unigryw o'r byd, mae gyrfa yn y diwydiant twristiaeth yma'n siŵr o fod yn gyffrous. Does wybod i ble y gall hyn fynd â chi!

  • Gweinyddwr yn y Celfyddydau
  • Concierge
  • Rheolwr Cefn Gwlad
  • Ceidwad Cefn Gwlad
  • Cynrychiolydd Gwyliau
  • Rheolwr Amgueddfa neu Oriel
  • Rheolwr Gweithgareddau Hamdden
  • Rheolwr Bwyty
  • Rheolwr Canolfan Chwaraeon neu Ganolfan Hamdden
  • Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol
  • Tywysydd
  • Cynorthwyydd mewn Canolfan Groeso
  • Rheolwr Trên
  • Gyrrwr Tram
  • Cynghorydd Teithio
  • Rheolwr Asiantaeth Deithio

Dilyn eich Diddordeb

Mae sawl mantais i addysg ym maes twristiaeth ac mae'n cynnig pob math o gyfleoedd cyffrous. Dyma rai o'r sgiliau y gallech chi gael budd ohonynt:

Sgiliau Ymarferol

Mae gyrfaoedd twristiaeth yn aml yn ymarferol iawn a bydd angen i lawer o'r dysgu ddigwydd y tu hwnt i werslyfrau ac ystafelloedd dosbarth. Bydd myfyrwyr sy'n astudio twristiaeth yn meithrin sgiliau newydd wrth ddatrys problemau a rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid, a gall y rhain i gyd gael eu trosglwyddo i unrhyw ddiwydiant.

Twf Personol

Bydd y sgiliau cyfathrebu a'r sgiliau rhyngbersonol a geir o weithio yn y diwydiant twristiaeth yn meithrin annibyniaeth. Bydd sgiliau fel gwytnwch ac ysgwyddo cyfrifoldeb yn eich paratoi ar gyfer yr heriau eraill a all ddod i'ch rhan yn eich bywyd proffesiynol a phersonol.

Cyfoeth Diwylliannol

Mae mwy i dwristiaeth na theithio i leoedd newydd a gweithio iddynt. Mae'n rhoi profiad i chi o hanes, ieithoedd a diwylliannau newydd. Wrth astudio twristiaeth byddwch yn ennill ymwybyddiaeth ddiwylliannol a fydd yn agor eich meddwl.

Ymwybyddiaeth o'r Amgylchedd

Mae cynaliadwyedd yn flaenoriaeth i'r diwydiant twristiaeth. Wrth astudio twristiaeth byddwch yn dysgu am arferion amgylcheddol cyfrifol, ecogyfeillgar a moesegol a'r broses o wneud penderfyniadau cynaliadwy.

Eich Llwybr i Lwyddiant

Mae’r diwydiant twristiaeth yn datblygu'n gyson ac mae’n cynnig dewis amrywiol o lwybrau gyrfa. O brentisiaethau i gyrsiau lefel gradd, dilynwch y llwybr sy’n addas i chi.

Camau nesaf...

  16-18 oed 18+ oed
Prentisiaethau Lefel 2-5
Prentisiaethau Graddau Lefel 6
Cyflogaeth
Addysg Bellach (Lefelau A, BTEC, neu, cymwysterau Lefel 3 eraill)
Addysg Uwch (Brifysgol)
Blwyddyn i ffwrdd
Twf Swyddi Cymru (16-19 oed)
Hunangyflogaeth/Entrepreneur
Gwirfoddoli

Swyddi y mae Galw Amdanynt

Ffynhonnell: Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, Llwybrau i'ch Dyfodol

>REGIONAL SKILLS PLAN

Mae Cyflogwyr ym maes Twristiaeth yn Ffynnu

Mae'r Daith yn Cychwyn Yma

Mae llawer o adnoddau ar gael i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru i'ch grymuso i wneud y dewis gyrfa cywir.

Mae'r Cynllun Talent Twristiaeth yn gweithio mewn cydweithrediad â Grŵp Llandrillo Menai, Gyrfa Cymru a'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

Gyrfa Cymru

Gall Gyrfa Cymru eich helpu i gynllunio eich llwybr gyrfa a'ch cefnogi i ddod o hyd i'r cyrsiau a'r swyddi cywir.

Ewch i'r Wefan

Grŵp Llandrillo Menai

Mae Llandrillo Menai yn darparu ystod eang o lwybrau dysgu o brentisiaethau i gyrsiau lefel gradd.

Ewch i'r Wefan

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Mae gan y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol lawer o adnoddau defnyddiol sy'n rhoi sylw i'r meysydd twf allweddol yng Ngogledd Cymru.

Ewch i'r Wefan

Portal Sgiliau Gogledd Cymru

P’un a ydych yn unigolyn neu’n gyflogwr o unrhyw faint, gallwch ddefnyddio’r Portal i weld y cyfleoedd sydd ar gael yng ngogledd Cymru.

Ewch i'r Wefan