Royal Oak
Gwesty’r Royal Oak yn Cynnal Profiad Gwaith Lletygarwch i Fyfyrwyr Sir Ddinbych Ar 23 Ionawr, 2025, camodd deuddeg o ddisgyblion…
Tanio Diddordeb mewn Lletygarwch
Drwy gydol 2024, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau lletygarwch a thwristiaeth mewn ysgolion uwchradd ac ar safleoedd busnesau yn y sector yng ngogledd-orllewin Cymru, a bydd yn rhain yn parhau tan ddechrau 2025.
Bwriad y rhaglen yw addysgu, ysgogi a rhoi cysylltiadau i bobl ifanc drwy roi blas iddynt ar y gyrfaoedd cyffrous sydd ar gael yn yr ardal ym maes twristiaeth a lletygarwch.
Gall penderfynu ar eu cam nesaf fod yn anodd i bobl ifanc. Mae’r Cynllun Talent Twristiaeth yn cynnal digwyddiadau 'pop-up' sy'n darparu profiadau dysgu diddorol a deinamig.
Hyd yma mae'r prosiect wedi cynnal chwe digwyddiad sirol mewn chwe ysgol uwchradd wahanol. Daeth y digwyddiadau hyn â dros 900 o fyfyrwyr ynghyd o fwy nag 20 ysgol, yn amrywio o Flwyddyn 8 i Flwyddyn 11.
Mae sesiynau holi ac ateb rhyngweithiol gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant, cystadlaethau coginio, a ffeiriau gyrfaoedd wedi ennyn diddordeb myfyrwyr ac ehangu eu dealltwriaeth o'r sector lletygarwch a thwristiaeth lleol.
Roedd y prosiect hefyd yn cynnig diwrnodau profiad gwaith ymarferol i ddisgyblion ysgol a gynhaliwyd mewn busnesau twristiaeth a lletygarwch amlwg ledled gogledd Cymru, gan roi cipolwg ymarferol iddynt ar y diwydiant a phrofiadau uniongyrchol trwy weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol.
Roedd y Gweithgareddau'n Cynnwys
Bydd y digwyddiadau rhyngweithiol a diddorol hyn yn cynnig llawer o fanteision i'r dysgwyr:
Cymerwch olwg ar rai o'n hoff luniau o ddigwyddiadau diweddar
Gwesty’r Royal Oak yn Cynnal Profiad Gwaith Lletygarwch i Fyfyrwyr Sir Ddinbych Ar 23 Ionawr, 2025, camodd deuddeg o ddisgyblion…
Antur, Addysg, ac ychydig o Adrenalin: Zip World yn croesawu disgyblion Siroedd Conwy ac Ynys Môn Gan aros yn driw…
Cynhaliodd y cogydd adnabyddus a chyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo ddigwyddiad pryd o fwyd tri chwrs a sesiwn holi ac ateb ym…
Y Cynllun Talent Twristiaeth ym Mhortmeirion: Diwrnod Profiad Gwaith Cyffrous Ar 26ain o Dachwedd 2024, croesawyd tri deg o ddisgyblion…
Y Cynllun Talent Twristiaeth: Darpar Weithwyr y Diwydiant Twristiaeth a Lletygarwch yng Ngwynedd Mewn ysgolion yng Ngwynedd ym mis Hydref…
Y Cynllun Talent Twristiaeth: Diwrnod Profiad Gwaith yn y Waterloo Hotel & Lodge Ar 5 Rhagfyr 2024 teithiodd deuddeg myfyriwr…
Ysgol John Bright yn Cynnal Digwyddiad ar Yrfaoedd yn y Diwydiant Twristiaeth a Lletygarwch yng Nghonwy Ar 5 Tachwedd 2024,…
Y Cynllun Talent Twristiaeth yn Ysgogi Darpar Arweinwyr y Diwydiant ar Ynys Môn Ar 24 Medi 2024, yn Ysgol David…
Digwyddiad Dau Ddiwrnod Unigryw yn Sir Ddinbych: Lletygarwch a Thwristiaeth yn Dod yn Fyw Yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ar…
Mae llawer o adnoddau ar gael i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru i'ch grymuso i wneud y dewis gyrfa cywir.
Mae'r Cynllun Talent Twristiaeth yn gweithio mewn cydweithrediad â Grŵp Llandrillo Menai, Gyrfa Cymru a'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.
Gall Gyrfa Cymru eich helpu i gynllunio eich llwybr gyrfa a'ch cefnogi i ddod o hyd i'r cyrsiau a'r swyddi cywir.
Ewch i'r Wefan
Mae Llandrillo Menai yn darparu ystod eang o lwybrau dysgu o brentisiaethau i gyrsiau lefel gradd.
Ewch i'r WefanMae gan y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol lawer o adnoddau defnyddiol sy'n rhoi sylw i'r meysydd twf allweddol yng Ngogledd Cymru.
Ewch i'r WefanP’un a ydych yn unigolyn neu’n gyflogwr o unrhyw faint, gallwch ddefnyddio’r Portal i weld y cyfleoedd sydd ar gael yng ngogledd Cymru.
Ewch i'r Wefan