Portmeirion
Y Cynllun Talent Twristiaeth ym Mhortmeirion: Diwrnod Profiad Gwaith Cyffrous
Ar 26ain o Dachwedd 2024, croesawyd tri deg o ddisgyblion blwyddyn 10 o Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Dyffryn Nantlle i bentref hardd Portmeirion, Gwynedd i gymryd rhan mewn profiad unigryw a luniwyd i ddangos yr ystod o yrfaoedd sydd ar gael ym maes twristiaeth a lletygarwch.
Mae twristiaeth yn ardal y gogledd yn parhau i ffynnu ond mae’r sector yn wynebu heriau denu a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr. Mae’r Cynllun Talent Twristiaeth yn (a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig) yn mynd i’r afael â hyn drwy godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd ym maes twristiaeth a lletygarwch a chynorthwyo myfyrwyr i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu dyfodol.
Darganfod Hud Portmeirion
Cafodd myfyrwyr daith o amgylch Portmeirion a chlywed am hanes y pentref â’i golygfeydd godidog. Mae’r pentref yn enwog am y bensaernïaeth a ysbrydolwyd gan adeiladau’r Canoldir a’r golygfeydd trawiadol o’r tirlun Cymreig. Rhannwyd y disgyblion yn grwpiau a chawsant gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol dan arweiniad gweithwyr o’r diwydiant sy’n gweithio ym Mhortmeirion. Rhoddwyd sylw i agweddau gwahanol o’r diwydiant lletygarwch gan gynnwys sesiynau creu moctels yn y bar, gweithgareddau cadw tŷ a chipolwg ar waith rheoli bwyty.
Rhoddodd y profiadau hyn gyfle iddynt gymryd rhan a gweld sut mae lleoliad blaengar yn y maes yn gweithio o ddydd i ddydd, y tu allan i ffiniau’r dosbarth. Gwnaed hynny dan arweiniad gweithwyr oedd yn barod i rannu profiadau a gwybodaeth am y diwydiant a’r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y maes, yn cynnwys cyfathrebu, gweithio fel tîm a sgiliau gwasanaethau cwsmer. Cafodd y myfyrwyr gyfle i sgwrsio gydag arbenigwyr yn y diwydiant a chlywed am y cymwysterau, y profiad a’r llwybrau sydd ar gael.
Meithrin Gweithlu Cynaliadwy ar gyfer y Dyfodol
Un o brif nodau’r Cynllun Talent Twristiaeth ydy meithrin gweithlu cynaliadwy a gwydn ar gyfer y dyfodol. Mae’r maes twristiaeth yn parhau i ddatblygu, yn enwedig yn sgil datblygiadau ym maes technoleg a’r angen am ymarfer gynaliadwy, ac mae galw cynyddol am bobl ifanc sgilgar a hyblyg i weithio yn y diwydiant.









